Mae safleoedd ar gyfer carafanau statig preifat gyda thrwydded i'w
defnyddio 8 mis y flwyddyn, o'r penwythnos 1af ym mis Mawrth i'r
penwythnos 1af ym mis Tachwedd gyda ffioedd o £1,950 y
flwyddyn. Mae gan bob safle gyflenwad dŵr a chysylltiad carthffos
gyda tâl ychwanegol am drydan yn cael ei fesur yn unigol. Ar hyn o
bryd mae 3 safle concrit newydd ar gael. Ni chaniateir rhentu allan.
Codi’r ffi o £2,500 am ddod a carafan i’r safle lle nad oes comisiwn
cyflenwyr yn daladwy. Y ffi i leoli a chysylltu yw £1,500 a £1,000 am
gael gwared o garafan, I drafod dod a charafan statig ar y safle,
cysylltwch â Alwyn Roberts ar 07818 454190.
Mae safleoedd gyda chyswllt trydan ar gael i garafanau tymhorol /
teithiol gyda thaliad llawn am arhosiad yn ofynnol wrth gyrraedd.
Mae safle gyda thrydan i garafanau Tymhorol ar gael o fis Ebrill i fis
Hydref am £240 y mis (isafswm o 3 mis). Mae safle gyda thrydan i
garafanau teithiol ar gael am £30 y noson (isafswm o 2 noson ar
benwythnosau gŵyl y banc).