Llanuwchllyn, Bala, LL23 7SU
Wedi’w leoli yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri,
Gogledd Cymru /
Situated in the heart of the Snowdonia National
Park, North Wales
Tel: 07790 513048 Email: bgcp@btinternet.com
Mae croeso cynnes i chi ym Mharc Carafanau Bryn
Gwyn, sydd wedi'i leoli ar gyrion Llanuwchllyn ar
lan yr Afon Lliw mewn safle tawel ym Mharc
Cenedlaethol Eryri.
Mae o fewn pellter cerdded rhwydd i bentref Llanuwchllyn ar hyd
llwybr troed cyhoeddus ble mae’r garej leol yn gwerthu
darpariaethau bwyd a diod ac o ddydd Llun i ddydd Sadwrn dewis
o bapurau newydd. Mae Tafarn Gymunedol yr Eryrod yn cynnig
prydau bwyd blasus am brisiau rhesymol a bydd cyflenwad
cyfyngedig ar gael fel bara a llefrith, hefyd papurau dydd Sul. Mae
trên bach stêm yn rhedeg o'r Pentref ar hyd glan Llyn Tegid i dref
farchnad hanesyddol y Bala.
Mae'r Parc Carafanau yn mwynhau golygfeydd godidog o’r ardal
cyfagos gan gynwys mynyddoedd yr Aran ac mae'n ganolfan
ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded, heicio, beicio a gweithgareddau
dŵr amrywiol. Mae wedi'i leoli'n ganolog i Eryri a'r arfordir ac yn
hwylus ar gyfer teithio Gogledd a Chanolbarth Cymru.